Boed i efengyl Iesu mawr Orchuddio wyneb daear lawr; Ei hyfryd sain, a'i goleu clir, Fo'n amlwg yn yr anial dir; Fel byddo i'r cenhedloedd oll Ymgasglu 'nghyd, heb un ar goll - Doed pobloedd daear yn gytûn - I gyd addoli Mab y dyn! Cyfoder baner fawr dy ras Ymhob rhyw barth o'r ddaear lâs; Awelon nef fo'n dannau byw I seinio'r iachawdwriaeth wiw; Y delwau mudion, fach a mawr, Fel Dagon gynt, a gwympo i lawr; A chaned holl dafodau'r byd, Ganiadau mawr dy angeu drud! Doed pobloedd daear :: Iuddewon hefyd gyd addoli :: gydfoliannu
1: David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822
Tonau [MHD 8888D]:
gwelir: |
May the gospel of great Jesus Cover the face of the earth below; Its delightful sound, and its clear light, Be evident in the desert land; Thus may all the nations Gather together, without any being lost - May the peoples of the earth come in agreement - To worship together the Son of man! May the great banner of thy grace be raised In every kind of region of the blue-green earth; The breezes of heaven be living strings To sound the worthy salvation; The mute images, small and great, Like Dagon of old, fall down; And may all the world's tongues sing, The great songs of thy precious death! May the peoples of the earth come :: Jews also To worship together :: to praise together tr. 2020 Richard B Gillion |
|